Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2014

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(173)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

Cwestiynau Brys

 

Cwestiwn Brys 1

Janet Finch Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

 

Cwestiwn Brys 2

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar atal dros dro lawdriniaethau nad ydynt yn frys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 

</AI2>

<AI3>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3 Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud) 

NDM5408 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Ffred Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).

 

NDM5409 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Ffred Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus yn lle Jocelyn Davies (Plaid Cymru).

 

NDM5410 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Alun Ffred Jones (Plaid Cymru).

 

NDM5411 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Elin Jones (Plaid Cymru).

 

</AI4>

<AI5>

4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda (30 munud)

 

</AI5>

<AI6>

5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Perfformiad Llywodraeth Leol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent - gohiriwyd

 

</AI6>

<AI7>

6 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gwella Perfformiad Ynni Adeiladau yng Nghymru (30 munud) 

Dogfennau Ategol

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheoliadau Adeiladu Rhan L

 

Datganiad Ysgrifenedig Gorffennaf 2013 -  Sbarduno Adeiladu Cartrefi yng Nghymru

 

Datganiad Ysgrifenedig Medi 2013 - Diwygiadau Arfaethedig i Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu

 

</AI7>

<AI8>

7 Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau Gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013 (15 munud) 

NDM5359 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2013.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

 

Dogfennau Ategol

Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

 

</AI8>

<AI9>

8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â rheoleiddio deunydd pacio manwerthu cynhyrchion tybaco, rheoli cynhyrchion tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig (45 munud) 

NDM5389 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â rheoleiddio pecynnu manwerthol cynhyrchion tybaco, rheoleiddio'r cynhyrchion tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Trawsysgrifiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - 16 Ionawr 2014

 

 

</AI9>

<AI10>

9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (Perfformiadau) (30 munud) 

NDM5390 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd, sy’n ymwneud â diddymu adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, i’r graddau y mae’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

 

Dogfen Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

</AI10>

<AI11>

10 Dadl ar sicrhau mynediad gwell at ein treftadaeth a’n diwylliant (60 munud) 

NDM5401Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd ehangu mynediad i dreftadaeth a diwylliant I bawb, gan annog pobl o bob rhan o gymdeithas i gymeryd rhan a sicrhau bod unrhyw rwystrau i gyfranogi yn cael eu dileu.

2. Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein sector treftadaeth a diwylliant I wella mynediad ac i sicrhau y gall bawb yng Nghymru gymeryd rhan mewn gweithgarwch ddiwylliannol, neu gael mynediad i'n safleoedd treftadaeth a chael profiad gwerthfawr.

3. Nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'r gwaith o gryfhau'r dull hwn o weithio drwy ddatblygu proses o weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws bob adran a chyda'r sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru yn ehangach.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r ymgynghoriad ystyrlon, “Dyfodol ein Gorffennol”, ac yn croesawu dylanwad yr ymatebion hynny ar benderfyniad y Gweinidog ynghylch dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau prosesau monitro ac adrodd cyson ar gyfer yr holl gamau a gymerir i annog pobl i ymwneud mwy â threftadaeth a diwylliant ac i gyfrannu mwy atynt, a fydd yn ddigon i ddarparu gwerthusiad cadarn.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau ein bod yn cadw arbenigedd yn ein sefydliadau treftadaeth fel na fyddwn yn colli‘r gallu i ddehongli ein gorffennol yn sgîl colli swyddi.

 

b) cyflwyno prentisiaethau treftadaeth fel ffordd o sicrhau bod ein dealltwriaeth o’n treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn canmol gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd swyddi’r staff yn ddiogel yn y tymor hir.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ymchwilio i’r broses o gael statws elusennol.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau celf a threftadaeth eraill i sicrhau y gellir rhoi benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yng Nghymru i gyfleusterau eraill.

 

</AI11>

<AI12>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 22 Ionawr 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>